Bro Oed-Gyfeillgar

Age Friendly Vale Banner  (1221 × 164px)

Yng nghyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg ym mis Ebrill 2021, cyflwynodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru a'i thîm wybodaeth i bartneriaid am bwysigrwydd a manteision dod yn lle o gyfleoedd i’r henoed ac ennill Statws Lle o Gyfleoedd i’r Henoed Sefydliad Iechyd y Byd.  Gan gydnabod pwysigrwydd y gwaith hwn wrth i ni adfer o'r pandemig, yn enwedig gan fod gan y Fro boblogaeth hŷn sy'n tyfu, cytunodd y BGC i fwrw ymlaen â'r gwaith yn y Fro ar y cyd i wneud cais am statws Lle o Gyfleoedd i’r Henoed.

Cymunedau o Gyfleoedd i’r Henoed  

Datblygwyd y cysyniad o Dinasoedd a Chymunedau o Gyfleoedd i’r Henoed gan Sefydliad Iechyd y Byd yn 2007.  Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn cydnabod 8 nodwedd allweddol (parthau) o gymunedau o gyfleoedd i’r henoed, sef: 

  • Mannau ac adeiladau awyr agored
  • Trafnidiaeth
  • Tai
  • Cyfranogiad cymdeithasol
  • Parch a chynhwysiant cymdeithasol
  • Cyfranogiad dinesig a chyflogaeth
  • Cyfathrebu a gwybodaeth
  • Cymorth cymunedol a gwasanaethau iechyd 

Mae gwaith yn cael ei wneud ar draws y Fro i gryfhau gweithgareddau a chefnogaeth yn y meysydd hyn i sicrhau bod y Fro yn dod yn lle gwell i bobl heneiddio ynddo.  Drwy ddod yn lle o gyfleoedd i’r henoed rydym yn cydnabod y bydd hyn yn gwneud y Fro yn lle mwy cyfeillgar i bawb, yn enwedig pobl hŷn.

Arolwg Ymgysylltu Lle o Gyfleoedd i’r Henoed   

Fel rhan o'n gwaith i fod yn lle o Gyfleoedd i’r Henoed rydym wrthi’n ymgysylltu â thrigolion i glywed yn uniongyrchol gan drigolion am yr hyn y gellir ei wneud ar draws y Fro i sicrhau bod y Fro yn fan lle gall pobl o bob oed fyw'n hapus ac yn iach, yn enwedig wrth i ni heneiddio. Rydym yn gwneud hyn mewn partneriaeth â Fforwm Strategaeth 50+ y Fro sydd hefyd yn ymgysylltu â thrigolion hŷn i helpu i lywio ffocws y Fforwm yn y dyfodol. 

Gellir cwblhau’r arolwg byr yma.  Y dyddiad cau ar gyfer ymateb yw 31 Mawrth 2022.  Os hoffech gwblhau'r arolwg dros y ffôn, ffoniwch:  01446 700111.

Hawliau Ariannol   

Mae gwerth miliynau o bunnoedd o hawliau ariannol yn mynd heb ei hawlio gan bobl hŷn cymwys yng Nghymru, yn 2018/19 roedd £214 miliwn o Gredyd Pensiwn heb ei hawlio.  Mae'r tabl isod yn cynnwys rhai o'r hawliau ariannol mwyaf cyffredin sydd ar gael i bobl hŷn sy'n aml yn mynd heb eu hawlio a gwybodaeth am sut i wirio eich cymhwysedd.  I gael rhagor o gyngor a chefnogaeth, gallwch gysylltu â:

  • I gael cyngor Gwasanaeth Hawliau Lles Age Connects – 02920 683682
  • I gael gwybodaeth gyffredinol Cynllun Cymdogion Da Age Connects - 01446 732685 ar gyfer Canol y Fro a 01446 795549 ar gyfer Gorllewin y Fro 
  • I gael Cymorth Eiriolaeth Gwasanaeth Eiriolaeth Age Connects - 01446 795632
Hawliau Ariannol
 Math o Hawl Trosolwg o'r HawlManylion Cyswllt 
Credyd Pensiwn

Mae Credyd Pensiwn yn daliad ychwanegol wythnosol i'ch incwm yn seiliedig ar faint o arian rydych chi’n ei gael.

Os yw eich pensiwn wythnosol yn llai na £167.25 (£255.25 ar gyfer cyplau), efallai y byddwch yn gymwys i gael Credyd Pensiwn, sy'n ychwanegu at eich incwm ac yn datgloi ystod o hawliau eraill. 

 Llinell hawlio Credyd Pensiwn  - 0800 99 1234    
Gostyngiad y Dreth Gyngor  Efallai y byddwch yn gymwys i gael gostyngiad y Dreth Gyngor os ydych yn diwallu meini prawf cymhwysedd penodol. Bydd unrhyw un sydd wedi cael diagnosis meddygol o nam meddwl sylweddol (NMS) sy’n ymddangos fel pe bai’n un parhaol, gan gynnwys clefyd Alzheimer a ffurfiau eraill ar ddementia, yn gymwys ar gyfer gostyngiad y Dreth Gyngor.   Tîm Treth Gyngor - 01446 709564  CouncilTax@valeofglamorgan.gov.uk    
Lwfans Gweini Gall pobl dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth sydd angen help gyda gofal personol neu oruchwyliaeth oherwydd salwch neu anabledd fod yn gymwys ar gyfer y Lwfans Gweini.  Llinell gymorth Lwfans Gweini Age UK - 0800 731 0122
Lwfans Gofalwr Os ydych yn gofalu am rywun am 35 awr yr wythnos neu fwy, gallech fod yn gymwys ar gyfer y lwfans gofalwr.  Er nad yw pobl sy'n derbyn eu pensiwn y wladwriaeth yn aml yn gymwys am y swm llawn, efallai y byddwch yn dal i allu cael rhywfaint o arian i gydnabod eich rôl gofalu. Llinell wybodaeth a chymorth Carers UK - 0808 808 7777 
Welsh Copyrights © 2018. All Rights Reserved by Vale of Glamorgan Public Services Board