Beth rydym yn ei wneud

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol: 

Daeth y Ddeddf i rym ym mis Ebrill 2016 a hwn yw’r unig ddarn o ddeddfwriaeth o’i math yn y byd. Mae’n gyfle sylweddol i wella a newid bywydau ym Mro Morgannwg a Chymru gyfan. Mae’r Ddeddf yn nodi sut y dylai cyrff cyhoeddus yng Nghymru gydweithio i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. I wneud hyn, mae’r Ddeddf yn sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn cyflawni eu gwaith yn unol â’r egwyddor Datblygu Cynaliadwy; hynny yw, i weithredu mewn ffordd sy’n ceisio sicrhau bod anghenion cyfredol yn cael eu bodloni heb gyfaddawdu ar allu cenedlaethau’r dyfodol i fodloni eu hanghenion eu hunain.

Mae’r Ddeddf wedi sefydlu saith nod lles i Gymru, a ddangosir yn y cylch isod, a thrwy ein Cynllun Lles a’n gwaith bydd y BGC yn gweithio tuag at gyflawni’r holl nodau cenedlaethol.

 Goals Welsh

I gyflawni’r saith nod a’i hegwyddorion, mae’r Ddeddf yn nodi Pum Ffordd o Weithio. Mae’r ffyrdd o weithio, fel y dangosir isod, yn sicrhau bod cyrff cyhoeddus a BGCau yn ystyried pethau’n yr hirdymor, yn cynnwys pobl wrth wneud penderfyniadau, yn gweithio’n well gyda dinasyddion, cymunedau a’i gilydd, yn ceisio atal problemau rhag digwydd a gweithio’n fwy cydlynol. Drwy gydweithio a gweithredu’r pum ffordd o weithio gallwn greu Bro Morgannwg a Chymru yr ydym am fyw ynddi, nawr ac yn y dyfodol. Mae rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar gael drwy Ganllaw Hanfodion Llywodraeth Cymru.

5wow Welsh

 

Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol:

Future Generations Commissioner Logo

Gwnaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol hefyd sefydlu Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i Gymru. Ei rôl yw helpu cyrff cyhoeddus a llunwyr polisi yng Nghymru i feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau. Rôl y comisiynydd yw:

  • Rhoi cyngor i Gyrff Cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Cynnal adolygiadau i sut mae cyrff cyhoeddus yn ystyried effaith hirdymor eu penderfyniadau
  • Gwneud argymhellion yn dilyn adolygiad 

Mae’r Comisiynydd wedi rhoi cyngor i’r BGC wrth ddatblygu ei Gynllun Lles, ac adborth ffurfiol ar y Cynllun cyfan. Mae’r ddau ar gael ar dudalen ein Cynllun Lles.

Ein Prif Dasgau: 

Mae’r BGC yn gyfrifol am ddatblygiad nifer o dasgau allweddol, ac yn eu plith mae:

  • I siarad â’n trigolion a defnyddio data ac ymchwil i ddeall mwy am ein cymunedau i'n helpu i wybod sut y gallwn wella bywydau ar draws Bro Morgannwg. Y gwaith hwn yw ein Hasesiad Lles.

  • Datblygu Cynllun Lles  sy’n nodi ein hamcanion lles, ein datganiadau ar sut rydym yn bwriadu gwella bywyd yn y Fro. Rydym wedi defnyddio’r dystiolaeth yn ein hasesiad i lywio ein hamcanion a datblygu Cynllun Lles sy’n sicrhau y gwnawn y cyfraniad mwyaf posibl at saith nod lles cenedlaethol Cymru. Drwy ein Cynllun rydym wedi nodi nifer o gamau y gweithiwn atynt er mwyn cyflawni ein nodau lles.

  • Parhau â’r sgyrsiau a ddechreuwyd â’n cymunedau drwy weithgareddau Let’s Talk; deall beth sy’n bwysig ac adrodd yn ôl ar y cynnydd a wnaethom wrth gyflawni ein Cynllun Lles, ei amcanion a chamau gweithredu. I roi’r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion a phartneriaid ar gynnydd y BGC,  byddwn yn llunio adroddiad blynyddol, yn ogystal â rhoi diweddariadau eraill gydol y flwyddyn.

Mae rhagor o wybodaeth am y ffordd mae’r bwrdd yn gweithredu ar gael yng Nghylch Gorchwyl y BGC. (Saesneg yn unig)

Welsh Copyrights © 2018. All Rights Reserved by Vale of Glamorgan Public Services Board