Beth rydych chi wedi'i ddweud wrthym

People in a workshop discussion

 

O'r cychwyn cyntaf, mae BGC y Fro wedi ymrwymo i ymagwedd gydweithredol gref, ac yn cydnabod yr angen am fwy o ymglymiad gan ystod o bartneriaid, ac i breswylwyr gael dweud eu dweud.

Wrth ddatblygu ein Hasesiad Llesiant a'n Cynllun Llesiant rydym wedi gwneud gwaith ymgysylltu ac ymgynghori helaeth â chymunedau er mwyn pennu ein blaenoriaethau.

Drwy ymgysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid, rydym wedi defnyddio’r canlyniadau i lywio a llunio ein Cynllun Llesiant a’i Amcanion. Mae hyn wedi bod yn fodd i sicrhau bod blaenoriaethau’r Cynllun Llesiant yn cyd-fynd â blaenoriaethau’r rhai sy’n byw ac yn gweithio yn y Fro.

Dyma rai o'r ymgynghoriadau a gynhaliwyd gennym i lywio'r Cynllun Llesiant:

    • Digwyddiadau ymgysylltu â phobl ifanc yn ystod yr haf
    • Gweithdy Rhanddeiliaid y BGC
    • Arolwg Beth am Sgwrs
    • Ymgynghoriad ar yr Asesiad Llesiant
    • Ymgynghoriad ar Fywyd yn y Fro
    • Gweithdy'r Dyfodol 3 Gorwel ar Gostau Byw
    • Fforwm Ymgynghorol ar Gydraddoldeb
    • Cyfarfod Cyfnewid BGC/Cynghorau Tref a Chymuned
    • Gweithdy Blaenoriaethau Strategol BGC y Fro, BGC Caerdydd, y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh)
    • Ymgynghori am 12 wythnos ar y cynllun drafft gan gynnwys arolwg ar-lein
    • Trafodaethau am newid hinsawdd a chostau byw gyda’r Cyngor Ieuenctid
    • Digwyddiadau ymgysylltu oed gyfeillgar

 

 Cafodd allbynnau o'r gweithdy 3 gorwel ar gostau byw eu categoreiddio dan y penawdau canlynol: Newid sefydliadol a chefnogaeth ystyrion ga gyflogwyr, tystiolaeth a data, a systemau gwybodaeth, newid o brynwriaeth i economi gylchol, Trafnidiaeth ac ynni, s

 

Yn ogystal â'r gwaith ymgynghori ac ymgysylltu a gyflawnwyd gan y BGC wrth ddatblygu'r Asesiad a'r Cynllun Llesiant, rydym hefyd wedi ystyried ymarferion ymgynghori ac ymgysylltu eraill a gyflawnwyd gan bartneriaid, gan gynnwys sgwrs 'Natur a Ni' Cymru gyfan, a gynhaliwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru, yr ymgynghoriad ar gyllideb Bro Morgannwg a'r ymgynghoriad ar Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd.

Pwrpasrhai o'r gweithgareddau hyn oedd deallsafbwyntiau'r cyhoedd a chael gwybod o lygad y ffynnon beth yw eu blaenoriaethau. Fodd bynnag, cafodd safbwyntiau ystod o randdeiliaid eu clywed mewn gweithgareddau eraill fel Gweithdy BGC y Fro, BGC Caerdydd a'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, a thrafodwyd blaenoriaethau strategol ar draws partneriaethau.

Yn ystod y cyfnod ymgynghori ffurfiol o 12 wythnos, gwnaed nifer o sylwadau ar y cynllun lles drafft gan amrywiaeth o randdeiliaid. Roedd ymdeimlad o gefnogaeth i’r cynllun a’i amcanion yn gyffredinol, yn ogystal â rhai argymhellion ar gyfer gwella. Canmolodd sawl rhanddeiliad y ffocws ar yr argyfyngau hinsawdd a natur yn y cynllun, ac roedd y rhan fwyaf yn cefnogi dull cydweithredol o gyflawni’r amcanion.

Yn ogystal, cafwyd ymatebion ffurfiol gan sefydliadau fel Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol. Roedd yr ymatebion hyn yn cynnwys cefnogaeth i’r cynllun drafft ac awgrymiadau ar gyfer ei wella, sydd wedi’u hymgorffori yn y fersiwn terfynol. Roedd y sylwadau a wnaed yn cynnwys awgrymiadau ailfformadu, ystyried amserlenni a monitro camau gweithredu, a mwy o bwyslais ar ddiwylliant. Roedd canmol hefyd i’r gwaith ymgysylltu a’r cydweithio a wnaed i ddatblygu’r cynllun ac anogaeth i barhau â’r arfer hwn.

.

A lady smiling

Roedd y cyfnod ymgynghori o 12 wythnos yn cynnwys arolwg ar-lein a ddenodd 107 o ymatebion. Daeth nifer o themâu i’r amlwg o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, gyda newid hinsawdd yn fater a esgorodd ar amrywiaeth o ran barn. Roedd llawer o gefnogaeth i warchod ein hamgylchedd a chynyddu mannau gwyrdd. Fodd bynnag, cafwyd rhai ymatebion a oedd yn cwestiynu lefel blaenoriaeth gweithredu ar newid hinsawdd ar gyfer sefydliadau lleol. Yn ogystal, roedd ffocws ar gyfathrebu gan fod llawer o ymatebwyr wedi pwysleisio pwysigrwydd gwrando ar ein cymunedau. Roedd cymysgedd o ymatebion gyda rhai yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu ac yn gofyn am fwy o ryngweithio, tra bod eraill yn cytuno â’r amcanion yn y cynllun gan amlygu bod y gwaith ymgysylltu yn effeithiol.

Drwy gydol ein proses ymgysylltu rydym wedi coladu a thrafod y themâu a'r blaenoriaethau allweddol a gynhyrchwyd. Roedd themâu cyffredin yn codi ar draws yr holl ymgynghoriadau, gan ddangos bod gan bobl ynn y Fro flaenoriaethau penodol, a'u bod yn disgwyl i wasanaethau cyhoeddus ymateb i'r blaenoriaethau hynny.

Roedd y gefnogaeth tuag at faterion yn gysylltiedig â'r newid hinsawdd yn arbennig o amlwg, fel cynyddu ynni adnewyddadwy a gwella ansawdd yr aer yn y Fro. Cafwyd cefnogaeth hefyd tuag at fwy o ddulliau teithio egnïol, gan gynnwys lonydd beicio, yn ogystal â sicrhau bod trafnidiaeth ar gael yn rhwyddach, ac yn fwy cynaliadwy a fforddiadwy. Roedd gwella mannau gwyrdd a chynyddu bioamrywiaeth yn flaenoriaethau allweddol wrth i bobl ystyried yr amgylchedd a'u llesiant eu hunain. Ar ben hynny, roedd lleihau gwastraff, gan gynnwys bwyd ac ynni, yn flaenoriaeth bwysig gyda phobl yn awgrymu y dylid ysgogi economi gylchol, gan gynnwys mwy o ailgylchu ac ailddefnyddio. Roedd y galw i gynhyrchu mwy o fwyd yn lleol yn gysylltiedig â hyn, gyda rhai'n gofyn am fwy o randiroedd a gerddi cymunedol.

Yn ogystal â hynny, roedd themâu cyffredin yn codi'n gysylltiedig â chreu lleoedd a seilwaith, a oedd yn cynnwys blaenoriaethau fel gwella mynediad at wasanaethau a thrafnidiaeth gyhoeddus. Roedd llawer o bobl y buom yn ymgynghori â nhw yn codi pryderon ynghylch mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus a mynediad gwael at y rhyngrwyd, yn enwedig yn y Fro wledig. Yn ogystal â hynny, roedd cyfleusterau cyhoeddus fel toiledau a seddau hefyd yn flaenoriaeth, ynghyd â thrwsio palmentydd anwastad. Roedd cyfleoedd i gynnal gweithgareddau i bobl ifanc yn arbennig yn destun pwysig, a oedd yn gysylltiedig â phryderon ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol. 

Adleisiodd y Cyngor Ieuenctid bryderon ynghylch newid hinsawdd a’r argyfwng costau byw y mae grwpiau eraill wedi’u lleisio. Yn ogystal, roedd gan aelodau’r Cyngor Ieuenctid farn gref ar y ddarpariaeth drafnidiaeth gyhoeddus, gan ddadlau y dylid ei gwneud yn fwy hygyrch a fforddiadwy i bobl ifanc.

Maer’r blaenoriaethau hyn yn cyd-fynd â'r nod o wneud y Fro yn ardal oed gyfeillgar, gyda phobl o bob grŵp oedran yn tueddu i ystyried y materion hyn yn bwysig.

Mae’r wybodaeth a gasglwyd drwy’r amryfal weithgareddau ymgysylltu wedi siapio ein Cynllun a bydd yn parhau i siapio ein gwaith wrth inni gyflawni ein Hamcanion a chymryd y camau angenrheidiol i fynd i’r afael â’r materion a nodir yn y Cynllun hwn, a sicrhau ein bod yn cyfrannu at yr holl Nodau Llesiant cenedlaethol.

Bro oed- gyfeillgar. Beth y dylid ei wela i helpu i wneud y fro yn lle gwell i bobl hyn? Mwy o weithgareddau, toiledau cyhoeddus, mynediad at wasanaethau, trafnidiaeth, palmentydd, mwy o seddi mynediad at wybodaeth.

 

Welsh Copyrights © 2018. All Rights Reserved by Vale of Glamorgan Public Services Board