Age Friendly Vale

 Group of people image

Yng nghyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg ym mis Ebrill 2021, cyflwynodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru a'i thîm wybodaeth i bartneriaid am bwysigrwydd a manteision dod yn lle o gyfleoedd i’r henoed ac ennill Statws Lle o Gyfleoedd i’r Henoed Sefydliad Iechyd y Byd.  Gan gydnabod pwysigrwydd y gwaith hwn wrth i ni adfer o'r pandemig, yn enwedig gan fod gan y Fro boblogaeth hŷn sy'n tyfu, cytunodd y BGC i fwrw ymlaen â'r gwaith yn y Fro ar y cyd i wneud cais am statws Lle o Gyfleoedd i’r Henoed.

Cymunedau o Gyfleoedd i’r Henoed  

Datblygwyd y cysyniad o Dinasoedd a Chymunedau o Gyfleoedd i’r Henoed gan Sefydliad Iechyd y Byd yn 2007.  Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn cydnabod 8 nodwedd allweddol (parthau) o gymunedau o gyfleoedd i’r henoed, sef: 

  • Mannau ac adeiladau awyr agored
  • Trafnidiaeth
  • Tai
  • Cyfranogiad cymdeithasol 
  • Parch a chynhwysiant cymdeithasol
  • Cyfranogiad dinesig a chyflogaeth
  • Cyfathrebu a gwybodaeth
  • Cymorth cymunedol a gwasanaethau iechyd  

Mae gwaith yn cael ei wneud ar draws y Fro i gryfhau gweithgareddau a chefnogaeth yn y meysydd hyn i sicrhau bod y Fro yn dod yn lle gwell i bobl heneiddio ynddo.  Drwy ddod yn lle o gyfleoedd i’r henoed rydym yn cydnabod y bydd hyn yn gwneud y Fro yn lle mwy cyfeillgar i bawb, yn enwedig pobl hŷn.

 

Arolwg Ymgysylltu Lle o Gyfleoedd i’r Henoed 

Diolch i bawb a roddodd o'u hamser i gwblhau arolwg fforwm strategaeth 50+ ar y cyd rhwng y Fro a BGC y Fro.  Mae canfyddiadau'r arolwg hwn wedi'u rhannu â Phartneriaid a byddant yn helpu i lywio ffocws y Fforwm yn y dyfodol a datblygu cais a chynllun gweithredu y Fro Sy'n Dda i Bobl Hŷn i sicrhau bod y Fro yn fan lle gall pobl o bob oed fyw'n hapus ac yn iach, yn enwedig wrth i ni dyfu'n hŷn.

 

Siarter y Fro Sy'n Dda i Bobl Hŷn

Mae partneriaid yn cydweithio i ddatblygu Siarter y Fro Sy’n Dda i Bobl Hŷn ac sy'n dangos meysydd ffocws ac ymrwymiadau penodol y BGC lle gallwn weithio gyda’n gilydd fel partneriaid, ochr yn ochr â’n cymuned i sicrhau bod pobl yn heneiddio'n dda yn y Fro. Mae'r Siarter wedi ystyried yr hyn mae trigolion, grwpiau cymunedol a phartneriaid wedi dweud wrthym.  Byddwn yn parhau i glywed yn uniongyrchol gan y rhai sy'n 50 oed a hŷn sy’n byw ac yn gweithio yn y Fro er mwyn llywio Cynllun Gweithredu yn y dyfodol er mwyn sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar y materion y gallwn gael yr effaith fwyaf arnynt, ac sy’n cyfrif fwyaf. 

Gallwch weld y Siarter a'n 8 Ymrwymiad y byddwn yn gweithio tuag atynt. 

Hawliau Ariannol  

Mae gwerth miliynau o bunnoedd o hawliau ariannol yn mynd heb ei hawlio gan bobl hŷn cymwys yng Nghymru, yn 2018/19 roedd £214 miliwn o Gredyd Pensiwn heb ei hawlio.  Mae'r tabl isod yn cynnwys rhai o'r hawliau ariannol mwyaf cyffredin sydd ar gael i bobl hŷn sy'n aml yn mynd heb eu hawlio a gwybodaeth am sut i wirio eich cymhwysedd.  I gael rhagor o gyngor a chefnogaeth, gallwch gysylltu â: 

  • I gael cyngor Gwasanaeth Hawliau Lles Age Connects – 02920 683682
  • I gael gwybodaeth gyffredinol Cynllun Cymdogion Da Age Connects - 01446 732685 ar gyfer Canol y Fro a 01446 795549 ar gyfer Gorllewin y Fro
  • I gael Cymorth Eiriolaeth Gwasanaeth Eiriolaeth Age Connects - 01446 795632 

 

 

Financial Entitlements and Benefits
Math o Hawl   Trosolwg o'r Hawl Manylion Cyswllt
Credyd Pensiwn 

Mae Credyd Pensiwn yn daliad ychwanegol wythnosol i'ch incwm yn seiliedig ar faint o arian rydych chi’n ei gael. 

Os yw eich pensiwn wythnosol yn llai na £167.25 (£255.25 ar gyfer cyplau), efallai y byddwch yn gymwys i gael Credyd Pensiwn, sy'n ychwanegu at eich incwm ac yn datgloi ystod o hawliau eraill.

Llinell hawlio Credyd Pensiwn -  0800 99 1234
Gostyngiad y Dreth Gyngor  Efallai y byddwch yn gymwys i gael gostyngiad y Dreth Gyngor os ydych yn diwallu meini prawf cymhwysedd penodol. Bydd unrhyw un sydd wedi cael diagnosis meddygol o nam meddwl sylweddol (NMS) sy’n ymddangos fel pe bai’n un parhaol, gan gynnwys clefyd Alzheimer a ffurfiau eraill ar ddementia, yn gymwys ar gyfer gostyngiad y Dreth Gyngor.  Tîm Treth Gyngor - 01446 709564 CouncilTax@valeofglamorgan.gov.uk 
Lwfans Gweini Gall pobl dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth sydd angen help gyda gofal personol neu oruchwyliaeth oherwydd salwch neu anabledd fod yn gymwys ar gyfer y Lwfans Gweini.  Llinell gymorth Lwfans Gweini Age UK  - 0800 731 0122
Lwfans Gofalwr Os ydych yn gofalu am rywun am 35 awr yr wythnos neu fwy, gallech fod yn gymwys ar gyfer y lwfans gofalwr.  Er nad yw pobl sy'n derbyn eu pensiwn y wladwriaeth yn aml yn gymwys am y swm llawn, efallai y byddwch yn dal i allu cael rhywfaint o arian i gydnabod eich rôl gofalu. Llinell wybodaeth a chymorth Carers UK  - 0808 808 7777
Welsh Copyrights © 2018. All Rights Reserved by Vale of Glamorgan Public Services Board