Asesiad Lles 2017

Cyhoeddodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus y Fro ei Asesiad Lles yn Ebrill 2017. Yr Asesiad oedd tasg fawr gyntaf y bwrdd fel rhan o ofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae asesu Lles lleol yn rhoi sylfaen tystiolaeth helaeth i’r BGC sydd wedi ein helpu i ddeall mwy am beth sy'n bwysig yn ein cymunedau ac anghenion ac asedau ein hardal leol. Rydym wedi defnyddio’r asesiad i lywio datblygiad y Cynllun Lles. 

Mae’r asesiad yn cynnwys ystod o dystiolaeth fanwl, gan gynnwys data, ymchwil a gwybodaeth ymgysylltu sy’n creu darlun manwl o les yn y Fro. Drwy gynnal yr asesiad rydym wedi nodi sut y gallwn gydweithio i wella lles cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol y Fro drwy ein Cynllun Lles.

Asesiad Lles Bro Morgannwg

 

 

Ein Cymunedau:

Fel rhan o’r Asesiad Lles rhannwn y Fro yn dair ardal wahanol: Y Barri, Dwyrain y Fro a Gorllewin y Fro. Galluogodd hyn y BGC i ddeall y cymunedau gwahanol ledled y Fro ac o fewn yr ardaloedd gwahanol hyn. Crëwyd cyfres o broffiliau cymunedol fel rhan o’r gwaith hwn a roddodd drosolwg o’r agweddau gwahanol ar bob ardal a Bro Morgannwg yn ei chyfanrwydd. Hoffem ddatblygu’r proffiliau hyn ymhellach a byddem yn croesawu unrhyw sylwadau neu awgrymiadau i wella’r proffiliau hyn.

 

 

Llywio ein Cynllun Lles:

Wrth ymgynghori ar yr Asesiad Lles drafft rhwng Ionawr a Mawrth 2017, gwnaethom hefyd ymgynghori ar bedwar maes i’w canolbwyntio arnynt a amlygwyd yn y BGC fel meysydd allweddol lle gallwn gydweithio i wneud gwahaniaeth. Y meysydd y canolbwyntiom arnynt i ddechrau oedd: Gwella Ymgysylltu, Rhoi dechrau da i blant mewn bywyd, Taclo Anghydraddoldeb a Gwarchod ein Hamgylchedd. Cadarnhaodd ein gweithgareddau ymgynghori’r pedwar maes hyn i ganolbwyntio arnynt, a thrwy gyfres o weithdai arbenigol a rhanddeiliad datblygwyd y themâu hyn yn Amcanion Lles y BGC a nodir yn ein Cynllun Lles.

Mae pecynnau gwybodaeth ar bob thema allweddol, sydd wedi llywio datblygiad ein Hamcanion Lles ar gael isod:

Welsh Copyrights © 2018. All Rights Reserved by Vale of Glamorgan Public Services Board