Ein Tystiolaeth

Image showing graphs and charts

CyhoeddoCyhoeddodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg ei Asesiad Llesiant ym mis Mai 2021. Roedd yr Asesiad yn rhoi sylfaen dystiolaeth helaeth i'r BGC ddatblygu ei flaenoriaethau a nodwyd yng Nghynllun Llesiant y BGC

Er mwyn datblygu’r hyn a ddysgwyd yn yr Asesiad, ac er mwyn olrhain newidiadau allweddol yn y Fro, mae’r BGC wedi llunio Sylfaen Dystiolaeth ar-lein.   Bydd y Sylfaen Dystiolaeth yn galluogi penderfyniadau i gael eu gwneud gan ddefnyddio data a dysgu sydd mor gyfredol â phosibl. Mae data yn cael ei gyflwyno trwy bedwar adroddiad allweddol, sy'n defnyddio nifer o ddangosyddion allweddol i olrhain llesiant Bro Morgannwg.  Mae'r pedwar adroddiad allweddol yn cynnwys dadansoddi a data ar Newid Demograffig, Addysg a'r Economi, Iechyd a Chymunedau a'r Amgylchedd a Thrafnidiaeth.  Mae modd gweld yr adroddiad trwy ddilyn y dolenni a nodir yn y blychau isod.

 

 

Nodir isod rhai adroddiadau pellach sy'n nodi data a thystiolaeth ar Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru a Nodweddion Gwarchodedig ym Mro Morgannwg.  Hefyd isod mae rhai dolenni at Ffynonellau Data Ychwanegol y gellir eu defnyddio ochr yn ochr â'r Sylfaen Dystiolaeth i ddatblygu dealltwriaeth o Fro Morgannwg.  

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru ym Mro Morgannwg

 Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yw’r mesur swyddogol ar gyfer amddifadedd cymharol mewn ardaloedd bach yng Nghymru. Mae'n nodi ardaloedd lle gallai fod lefelau uwch o amddifadedd trwy fesur Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHI) yn erbyn sawl 'Parth' neu fath o amddifadedd. Mae ACEHI yng Nghymru wedi'u rhestru o 1 (y mwyaf difreintiedig) i 1,909 (y lleiaf difreintiedig). Mae'r dadansoddiad hwn yn rhoi adolygiad manwl o ddata MALlC ar gyfer Bro Morgannwg, Parthau amddifadedd MALlC a'r dangosyddion a ddefnyddir i lunio'r Parthau hyn.

WIMD cy

Mynediad at Ddata Dadansoddol MALlC ar gyfer Bro Morgannwg

Nodweddion Gwarchodedig Mro Morgannwg

Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus i ystyried sut mae eu polisïau a’u penderfyniadau yn effeithio ar bobl sy'n cael eu gwarchod dan y Ddeddf Cydraddoldeb.   Mae'r dadansoddiad hwn yn rhoi trosolwg o’r data diweddaraf sydd ar gael ar hyn o bryd i'r rhai sydd â nodwedd warchodedig ym Mro Morgannwg.

 Nodweddion Gwarchodedig Mro Morgannwg

Gweld yr Adroddiad am Nodweddion Gwarchodedig ym Mro Morgannwg

Ffynonellau Data Ychwanegol 

Daw'r wybodaeth yn yr adroddiadau uchod o ddata ac ymchwil ar lefel Cymru a’r DU a'i goladu ar gyfer Bro Morgannwg. Nodir isod y dolenni i'r wybodaeth y mae'r adroddiadau hyn yn tynnu arnynt a ffynonellau pellach o ddata ac ymchwil y gellir eu cyrchu i gael gwybodaeth am Fro Morgannwg:

Welsh Copyrights © 2018. All Rights Reserved by Vale of Glamorgan Public Services Board