Asesiad o Risgiau Newid Hinsawdd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg (BGC) wedi cyhoeddi ei Asesiad Risg Newid Hinsawdd (ARNH) lleol, gan nodi'r risgiau hinsawdd mwyaf sylweddol sy'n wynebu'r ardal nawr ac yn y dyfodol.
Mae newid yn yr hinsawdd a'r argyfwng natur yn cyflwyno heriau cymhleth na all unrhyw sefydliad unigol fynd i'r afael â nhw. Drwy waith partneriaeth cryf, asesodd y BGC 44 o risgiau hinsawdd drwy broses ddwys, aml-gam ag oedd yn cynnwys ystod amrywiol o randdeiliaid.
Mae'r ARNH hwn yn darparu sylfaen dystiolaeth a rennir i lywio gwaith addasu cydgysylltiedig ar frys ledled y Fro. Mae'n nodi dechrau proses barhaus i fonitro, dysgu oddi wrth ac ymateb i risgiau hinsawdd wrth iddynt esblygu, gan helpu i gryfhau gwasanaethau a gweithrediadau dros amser.
Mae'r asesiad yn ystyried risgiau hinsawdd ar draws pum thema allweddol:
- Iechyd a lles
- Yr amgylchedd adeiledig
- Isadeiledd
- Economi
- Tir, natur a bwyd
Mae'r asesiad yn tynnu ar brofiad lleol o ddigwyddiadau tywydd eithafol diweddar, gan gynnwys stormydd y gaeaf, tywydd poeth a llifogydd. Mae hyn wedi helpu i sicrhau bod y canfyddiadau'n adlewyrchu nid yn unig risgiau hinsawdd a ragwelir, ond hefyd yr effeithiau yn y byd go iawn sydd eisoes yn effeithio ar gymunedau a gwasanaethau ledled y Fro.
Mae'r adroddiad yn amlygu lle mae effeithiau'r hinsawdd eisoes yn cael eu teimlo ledled y Fro, a lle mae disgwyl i'r risgiau ddwysau yn y blynyddoedd i ddod.
Canfyddiadau allweddol:
- Mae dros 60% o'r risgiau hinsawdd a nodwyd yn gofyn am weithredu ar frys neu ymchwiliad pellach.
- Nodwyd 13 o risgiau blaenoriaeth lle gall y BGC ddylanwadu'n ystyrlon ar ganlyniadau.
- Disgwylir i'r newid yn yr hinsawdd gael effeithiau cymdeithasol anwastad, gan gynnwys effeithiau ar iechyd meddwl, pryder yn yr hinsawdd ac arwahanrwydd cymdeithasol, yn enwedig ar gyfer grwpiau sy'n agored i niwed.
Bydd y canfyddiadau'n llywio Asesiad Lles a Chynllun Lles nesaf y BGC, gan helpu partneriaid i gydweithio i gryfhau gwydnwch a pharatoi gwasanaethau lleol ar gyfer hinsawdd sy'n newid.
Mae'r adroddiad llawn ar gael yma
'Rwy'n falch o'r gwaith sydd wedi cael ei wneud gan bartneriaid y BGC i gynhyrchu'r Asesiad Risg Newid Hinsawdd ar gyfer y Fro. Mae hwn wedi bod yn ymarfer gwerthfawr ac yn un y byddwn yn adeiladu arno wrth i ni barhau i ddatblygu ein gwybodaeth am y materion, yr effeithiau ar ein cymunedau a'r goblygiadau ar gyfer darparu gwasanaethau. Mae'r asesiad hwn yn amlygu pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth a manteision cyfuno gwybodaeth ac arbenigedd. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr asesiad gan gynnwys ymgynghorwyr JBA a'n cefnogodd ar y prosiect hwn. '
Y Cynghorydd Lis Burnett, Cadeirydd BGC y Fro ac Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg
“Mae'r adroddiad hwn yn enghraifft gref o'r hyn y gall cydweithredu gwirioneddol ei gyflawni. Mae'n nodi dechrau adeiladu gwydnwch hinsawdd ar draws y Fro—rhywbeth na ellir ei gyflawni gan unrhyw un sefydliad ar ei ben ei hun. Mae gweithio ar draws sectorau, deialog agored, a chynnwys lleisiau cymunedol wedi bod yn hanfodol wrth lunio cyd-ddealltwriaeth nad yw newid yn yr hinsawdd yn risg bell—mae eisoes yn effeithio ar ein pobl, ein gwasanaethau a'n lleoedd. Rhaid inni barhau i weithio gyda'n gilydd.
Fel Lis, rwy'n falch o'r hyn a gyflawnwyd gan bartneriaid BGC gyda chefnogaeth gan JBA Consulting. Rwy'n cael fy nghalonogi fwyfwy gan y sylfeini partneriaeth cryf yr ydym wedi'u hadeiladu a hoffwn ddiolch yn arbennig i bawb a gymerodd ran. Rwy'n edrych ymlaen at weld y gwaith hwn yn parhau i dyfu—cryfhau gwydnwch hinsawdd ledled y Fro yn y blynyddoedd i ddod.”
David Letellier, Pennaeth Gweithrediadau Ardal Canol De Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae'n ofynnol i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru ymgymryd â CCRA o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru). Gyda chymorth Cronfa Ffyniant a Rennir Llywodraeth y DU, penododd BGC y Fro JBA Consulting a gweithiodd yn agos gyda phartneriaid i gyflawni'r asesiad cynhwysfawr a hygyrch hwn.
Hoffai'r BGC ddiolch i bawb a gyfrannodd at y gwaith hwn. Mae eu mewnbwn wedi dwyn ynghyd ystod eang o wybodaeth, arbenigedd a phrofiad o lygad y ffynnon i gefnogi'r asesiad pwysig hwn.
Drwy gynnal yr asesiad, mae'r BGC yn cymryd cam hanfodol i ddiogelu cymunedau, gwasanaethau ac asedau naturiol y Fro. Bydd y canfyddiadau yn arwain gweithredu ar y cyd ac yn helpu i sicrhau bod gwydnwch hinsawdd yn cael ei ymgorffori ar draws penderfyniadau lleol.