Asesiad Lles 2022

Dyma'r ail Asesiad Lles i’w gynnal gan BGC y Fro, gyda'r asesiad diwethaf wedi'i gyhoeddi yn 2017.

Golwg ar Fro Morgannwg  - Asesiad o Les y Presennol a'r Dyfodol

A View of the Vale1

Mae Golwg ar Fro Morgannwg – Asesiad o Les y Presennol a'r Dyfodol yn dwyn ynghyd ganfyddiadau'r asesiad ac yn darparu'r dolenni i'r pedwar adroddiad thematig sy'n darparu dadansoddiad manwl o ddata a thystiolaeth. Mae'r asesiad hwn wedi defnyddio ystod o ddata, ymchwil a thystiolaeth genedlaethol a lleol ochr yn ochr â chanfyddiadau'r ymgysylltiad 'Let’s Talk' i ystyried cyflwr lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ledled Bro Morgannwg. Mae'r Asesiad Lles yn cynnwys cyfres o adroddiadau sy'n dwyn ynghyd y ffactorau gwahanol niferus sy'n effeithio ar les.

Mae'r Asesiad Lles yn broses barhaus, bydd gwaith yn parhau i wella a datblygu'r gyfres o adroddiadau sy'n rhan o’r asesiad. Bydd hyn yn cynnwys parhau i wella ein sylfaen wybodaeth drwy ddata a thystiolaeth newydd, datblygu ein data a'n hymchwil presennol ymhellach a gwella ein canfyddiadau ymgysylltu drwy fwy o ryngweithio wyneb yn wyneb â thrigolion a rhanddeiliaid eraill. 

Asesiad o Anghenion Poblogaeth Caerdydd a Bro Morgannwg:

Cyflwynodd Deddf Gwasanaethau Cymdethasol a Llesiant (Cymru) 2014 ddyletswydd ar awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol i baratoi a chyhoeddi asesiad o anghenion gofal a chymorth y boblogaeth, gan gynnwys gofalwyr y mae angen cymorth arnynt. Mae Partneriaeth Iechyd a Gofal Integredig Caerdydd a'r Fro, a sefydlwyd dan gyfarwyddyd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh), yn gweithio i ddatblygu cydweithio rhwng partneriaid yn y sector cyhoeddus i sicrhau bod gwasanaethau effeithiol yn cael eu darparu mewn modd sy'n diwallu anghenion gofal a chymorth cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Mae'r BPRh wedi ymgymryd â i ail Asesiad o Anghenion y Boblogaeth. 

Crynodeb o Asesiad o Anghenion Poblogaeth Caerdydd a Bro Morgannwg 2022-27 

Asesiad o Anghenion Poblogaeth Caerdydd a Bro Morgannwg 2022-27 llawn 

Welsh Copyrights © 2018. All Rights Reserved by Vale of Glamorgan Public Services Board