Gwneud Gwahaniaeth

Web banner Penarth Sea front

 

Un o’r cwestiynau a ofynnir yn aml gan randdeiliaid a Phwyllgorau Craffu yw pa wahaniaeth y mae’r BGC wedi’i wneud? Beth mae'n ei wneud? Credwn mai rôl allweddol y BGC yw ychwanegu gwerth/gwneud gwahaniaeth a hyrwyddo a dylanwadu ar waith eraill, hyrwyddo'r pum ffordd o weithio a sicrhau ein bod yn cyflawni er budd ein cymunedau ar draws ein sefydliadau a'n rhwydweithiau. Mae partneriaid wedi ymrwymo i wella llesiant economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol ar draws y Fro a manylir ar y gwaith hyd yma mewn cyfres o Adroddiadau Blynyddol cyhoeddwyd gan y BGC sy’n dangos sut rydym wedi ymwreiddio'r pum ffordd o weithio ac yn cyfrannu at y nodau llesiant cenedlaethol.

Pum Ffordd o Weithio - Mae’r pum ffordd o weithio yn parhau i fod yn rhan annatod o waith y BGC ond rydym yn cydnabod bod yn rhaid i’r ffordd rydym yn gweithio barhau i esblygu. Wrth gyflawni ein Hamcanion byddwn yn parhau i ymwreiddio'r pum ffordd o weithio ac yn herio eraill i sicrhau eu bod hwythau hefyd yn coleddu'r ffyrdd hyn o weithio. Yn benodol, rydym yn awyddus i gryfhau ein gwaith yn gysylltiedig ag atal a bodloni anghenion hirdymor.

Pum Ffordd o Weithio, Integreiddio, Cudweithio, Hldymor, Ymgyfraniad, Atal

 

Gweithio gyda'n Cymunedau - Byddwn yn parhau i weithio gyda chymunedau lleol a’n plant a’n pobl ifanc, gan ddefnyddio’r sgiliau a’r fforymau sydd ar waith ar draws ein sefydliadau i hwyluso’r gwaith hwn a datblygu dulliau newydd i sicrhau ein bod yn cyrraedd plant a phobl o bob oed a allai fod wedi ymddieithrio neu heb gael gwrandawiad yn aml. Rydym yn cydnabod, wrth inni gyflawni'r gwaith sydd ei angen o fewn ein cymunedau mwy difreintiedig, y bydd angen ymgysylltu â'r cymunedau hynny a'u cynnwys i raddau sylweddol. Rydym hefyd yn cydnabod bod angen cynnal trafodaeth gymunedol ynghylch y newidiadau sydd eu hangen yn wyneb yr argyfyngau hinsawdd a natur. Byddwn yn gwneud diwylliant o ymgysylltu ystyrlon â chymunedau a rhanddeiliaid eraill yn rhan annatod o waith y BGC a bydd hyn hefyd yn helpu i lunio sut y gallwn gynnwys y gymuned a rhanddeiliaid eraill fwyfwy yn ein gwaith. Rydym yn arbennig o awyddus i adeiladu ar y gwaith sydd eisoes ar y gweill i weithio’n agosach gyda chynghorau tref a chymuned.

Pobl mewn Siaced Lachar yn gweithio

Gweithio ar Sail Tystiolaeth - Fel y nodwyd yn gynharach yn y Cynllun byddwn yn cryfhau ein sylfaen dystiolaeth i sicrhau bod gennym ddata a gwybodaeth leol, ranbarthol a chenedlaethol gadarn i lywio ein gweithgareddau ac i gefnogi gwaith monitro cynnydd. Mae'n hanfodol ein bod yn datblygu ein dirnadaeth drwy ddefnyddio data ac ymgysylltu a bod gennym ymagwedd sy'n seiliedig ar dystiolaeth at ein gweithgareddau. Yn benodol, byddwn yn gwneud gwaith i ddeall yn well pa gamau y gellir eu cymryd i wella gwaith sy’n ymwneud â llesiant diwylliannol.

Adnoddau -Agwedd sy'n allweddol ar ffordd BGC o weithio yw'r adnoddau sydd ar gael i gefnogi gweithgareddau partneriaeth, ac i alluogi'r BGC i gyflawni ei ymrwymiadau a'i flaenoriaethau. Mae'r BGC yn dibynnu ar gydweithwyr ar draws sefydliadau partner i symud gwaith y BGC yn ei flaen oddi mewn i'w hadnoddau presennol. Hyd yma, mae'r BGC wedi defnyddio'r grant blynyddol gan Lywodraeth Cymru er mwyn helpu i ddatblygu'r BGC, ee sylfaen dystiolaeth a gweithgarwch ymgysylltu'r BGC. Yn 2020/21 neilltuodd Cyfoeth Naturiol Cymru £25,000 o gyllid ar gyfer BGCau. Yn y Fro, defnyddiwyd yr arian hwn ar gyfer ystod o brosiectau, gan gynnwys prosiect gardd, plannu coed, cymorth ar gyfer Bwyd y Fro a chanolfan addysg awyr agored mewn gardd gymunedol yn y Barri. Yn ogystal â hyn, mae’r BGC wedi defnyddio cyllid y blynyddoedd cynnar ac atal gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddatblygu gwaith yn gysylltiedig â gwirfoddoli a chynlluniau bancio amser, ac yn defnyddio'r cyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gwaith Oed Gyfeillgar. Bydd partneriaid yn parhau i wneud y mwyaf o gyfleoedd i ddefnyddio cyllid grant i symud ymlaen â blaenoriaethau'r BGC, ac i ystyried sut i wneud y mwyaf o sgiliau, profiad a chyfleoedd datblygu er mwyn sicrhau cynnydd gweithgareddau'r BGC.

Gwaith Rhanbarthol– Mae’r BGC yn parhau i weithio gyda BGC Caerdydd a Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro. Mae hyn yn ei alluogi i alinio gweithgareddau ar draws y rhanbarth, gan wneud y mwyaf o'r adnoddau a'r capasiti sydd ar gael ar draws ein sefydliadau a rhannu dysg ac arbenigedd. Yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r Cynllun Llesiant, cynhaliwyd nifer o weithdai i ystyried blaenoriaethau a threfniadau llywodraethu, a bydd yr ymagwedd hon o weithio ar y cyd yn parhau wrth inni symud ymlaen â'r blaenoriaethau yn y Cynllun Llesiant, y mae llawer ohonynt yn gyffredin ar draws Caerdydd a'r Fro, ac mae trefniadau rhanbarthol eisoes ar waith ee, y Bwrdd Cynyddu Gwaith Atal sy' canolbwyntio ar flaenoriaethau iechyd cyhoeddus. Rydym hefyd yn cydnabod cyrhaeddiad a dylanwad Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a'i bod yn bwysig i flaenoriaethau'r Fro fod yn rhan o'r agenda honno, yn enwedig pryderon ynghylch trafnidiaeth a chyflogaeth a'r broses o drosglwyddo i economi a chymdeithas ddi-garbon. Bydd y Cydbwyllgor Corfforaethol newydd hefyd yn cynnig cyfle pellach i gydweithio er mwyn hyrwyddo blaenoriaethau'r BGC.

Golygfa Arial o Fro Morgannwg

Cynllunio ar gyfer y Dyfodol - Wrth ddatblygu’r Cynllun hwn roedd y BGC yn croesawu arbenigedd cydweithwyr yng Nghyfoeth Naturiol Cymru a'u cynnig i gynnal gweithdy 3 Gorwel i ddatblygu ein ffordd o feddwl ac ymwreiddio'r angen i feddwl am y dyfodol yn ein gwaith. Mae'r Tri Gorwel (model 3G) yn cael ei hyrwyddo’n eang gan Lywodraeth Cymru a Swyddfa Cenedlaethau’r Dyfodol i helpu cyrff cyhoeddus i feddwl, a chynllunio’n well am ddyfodol ansicr. Fframwaith syml yw'r model 3 Gorwel sy'n helpu pobl i gynnal sgwrs effeithiol ynghylch yr hyn sy'n digwydd heddiw, y dyfodol yr ydym am ei greu gyda'n gilydd, a'r dulliau arloesol sy'n bodoli i'n helpu i gyrraedd y dyfodol hwnnw. Mae partneriaid BGC yn awyddus i wneud defnydd pellach o'r model 3G I wella gwaith y BGC, gan ystyried sut y gallwn wneud gwahaniaeth ar draws ein Hamcanion a sicrhau ein canlyniadau.

Mae’r adran Cyflawni Ein Hamcanion Lles yn manylu ar y camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni ein hamcanion lles ac mae hyn yn cynnwys nifer o gamau gweithredu ynghylch sut mae’r BGC yn gweithio. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Datblygu gwell dealltwriaeth o’n cymunedau ac ymateb i’w hanghenion amrywiol, gan gynnwys y rhai sy’n byw mewn ardaloedd mwy gwledig neu ardaloedd mwy difreintiedig, i sicrhau bod gwasanaethau a chyfleusterau’n hygyrch o ran dyluniad, trafnidiaeth, fforddiadwyedd a thechnoleg, a’u bod ar gael pan fo’u hangen er mwyn atal anghenion rhag gwaethygu.
  • Cynorthwyo’r trydydd sector a hyrwyddo cyfleoedd i wirfoddoli gan gydnabod y manteision lluosog i unigolion a’n cymunedau o wneud hyn.
  • Cynyddu’r defnydd o ddata lleol, rhanbarthol a chenedlaethol a defnyddio dull sy’n seiliedig i raddau mwy ar dystiolaeth i lywio penderfyniadau a diwygio gwasanaethau ar draws gwaith y BGC gan gynnwys datblygu sylfaen dystiolaeth y BGC
  • Defnyddio modelau fel y model 3H i gefnogi’r gwaith o feddwl yn y tymor hir a newid systemau ar draws y gweithgareddau a nodir yn y cynllun lles.
  • Cynyddu lefelau ymgysylltu ac ymwneud â phobl o bob oed, yn enwedig y rhai nad ydynt yn tueddu i ymgysylltu a’r rhai nas clywir yn aml, gan gynnwys trwy gyfrwng gweithgareddau diwylliannol.
  • Gwneud y mwyaf o gyfleoedd i gael mynediad at gyllid ac alinio gweithgareddau i gynyddu galluedd, sgiliau ac adnoddau i gyflawni blaenoriaethau yn y Fro a’r rhanbarth ehangach.
  • Ymgysylltu â’n plant a’n pobl ifanc a’u cynnwys er mwyn deall eu pryderon a’u dyheadau ar gyfer y dyfodol yn well a sicrhau bod gwasanaethau’n adlewyrchu eu barn a’u hanghenion.
  • Cymryd rhan mewn dull mwy integredig o ymdrin ag ystad y sector cyhoeddus (adeiladau a daliadau tir) i wella’r gwaith o ddarparu gwasanaethau a’n gwaith yn ymwneud â’r newid hinsawdd a natur.
  • Gweithio mewn partneriaeth i wneud y Fro yn fwy oed gyfeillgar, gan sicrhau bod gan bobl hŷn fynediad i’r gwasanaethau, y cymorth a’r cyfleoedd cywir yn lleol a’u bod yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau, yn gallu dylanwadu ar ddyluniad gwasanaethau a gwella lles
Welsh Copyrights © 2018. All Rights Reserved by Vale of Glamorgan Public Services Board