Mynd i'r Afael â Newid yn yr Hinsawdd ym Mro Morgannwg

Web banner aerial view

Mae’r amgylchedd lleol yn ased enfawr i’r Fro gyda 60 cilometr o lwybr arfordirol, cefn gwlad a pharciau gwledig hyfryd ac economi amaethyddol sylweddol.  Mae’r Fro yn lle hyfryd i fyw ac i ymweld â hi ond mae hyn yn rhoi pwysau ar yr amgylchedd wrth i ni gydbwyso ein lles economaidd, cymdeithasol a diwylliannol gan sicrhau ein bod yn parchu’r amgylchedd.

Mae'r Siarter yn adeiladu ar y camau a gymerwyd eisoes i ddiogelu a gwella amgylchedd y Fro ers y datganiad Argyfwng Hinsawdd yn 2019. 

Mae'n nodi cyfres o gamau gweithredu allweddol ar gyfer partneriaid y BGC, yn eu sefydliadau eu hunain ac i weithredu mewn partneriaeth, gyda'r nod o reoli a chyfyngu ar effeithiau newid yn yr hinsawdd:

  • Lleihau allyriadau i liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd gan addasu i'w effeithiau.
  • Bod yn fwy caredig wrth ein hamgylchedd.
  • Bod yn iachach.
  • Dod yn Sector Cyhoeddus Carbon Niwtral erbyn 2030.

Mae'r Siarter wedi'i llywio gan waith ymgysylltu a wnaed gyda phobl ifanc o bob rhan o’r Fro ac mae wedi ceisio adlewyrchu’r adborth hwn.

Bydd Grŵp Llywio'r Siarter Newid yn yr Hinsawdd yn arwain y prosiect, gan sicrhau bod y camau gweithredu a nodir yn cael eu cyflawni, gydag adroddiadau cynnydd rheolaidd i'r BGC. Mae enghreifftiau o'r gwaith arfaethedig yn cynnwys:- Cynlluniau gan Gyngor Bro Morgannwg i agor yr ysgolion carbon net-sero cyntaf yng Nghymru.

  • Gweithio gan Cyfoeth Naturiol Cymru i leihau allyriadau yn ei gadwyni cyflenwi drwy wella arferion caffael.
  • Plannu coed mewn ysgolion ac ar dir arall sy'n eiddo i bartneriaid y BGC.
  • Gwella adeiladau gan bartneriaid y BGC i gynyddu effeithlonrwydd ynni.

Welsh Copyrights © 2018. All Rights Reserved by Vale of Glamorgan Public Services Board