Cynllun Llesiant 2023-2028


RHAGAIR

Dyma ail Gynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) y Fro ac mae’n esbonioffocws y BGC dros y pum mlynedd nesaf.

Mae bod yn Gadeirydd 'Ein Bro’, BGC Bro Morgannwg, yn destun balchder imi. Mae'r Bwrdd yn dod ag ystod o bartneriaid ynghyd i ganolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig i’r Fro, a’r hyn sydd angen i ni ei wneud er budd preswylwyr heddiw, ac er budd cenedlaethau'r dyfodol. Yn y Cynllun hwn rydym wedi nodi tri Amcan Llesiant a’r camau y byddwn yn eu cymryd i’w cyflawni. Dyma ein Hamcanion Llesiant:

  • Bro sy'n fwy cydnerth a gwyrdd
  • Bro sy'n fwy iach ac egnïol
  • Bro sy'n fwy cyfartal a chysylltiedig

Yn ystod y pum mlynedd diwethaf mae’r BGC wedi tyfu i fod yn bartneriaeth gref. Daeth y pandemig â llawer o heriau yn ei sgil. Drwy gydweithio ar draws y Fro a rhanbarth ehangach De Cymru rydym wedi dangos yr arloesedd a’r ystwythder a geir ar draws y sector cyhoeddus, pwysigrwydd y trydydd sector ac ysbryd a chydnerthedd ein cymunedau. Byddwn yn adeiladu ar y cryfderau hyn wrth inni fwrw ymlaen â’r ymrwymiadau yn y cynllun hwn a sicrhau ein bod yn bodloni anghenion cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Wrth i ni barhau i dyfu fel partneriaeth mae angen i ni ddechrau canolbwyntio mwy ar feddwl ac ar waith atal hirdymor er mwyn sicrhau’r newidiadau y mae eu hangen i wella lles ar draws y Fro.

Mae’r Cynllun hwn yn adlewyrchu’r cyfnod o her aruthrol rydym yn byw ynddo. Mae ein trigolion, ein busnesau a nifer o sefydliadau trydydd sector a chymunedol yn wynebu ansicrwydd wrth i ni ddelio â’r argyfwng costau byw presennol ac effaith barhaus pandemig COVID-19 a digwyddiadau ledled y byd. Mae llawer ohonom hefyd yn benderfynol o gyflawni newidiadau angenrheidiol yn sgil yr argyfyngau hinsawdd a natur. Wrth wynebu heriau o’r maint hwn mae’n amlwg bod yn rhaid inni weithio mewn partneriaeth a symud ymlaen fel cymuned. Mae’r cynllun hwn yn mynegi ein hymrwymiad fel partneriaid i weithio gyda’n gilydd a gweithredu i wella lles ar draws y Fro ac yn arbennig i fynd i’r afael ag argyfyngau hinsawdd a natur, lleihau annhegwch a gwneud y Fro yn fwy oed gyfeillgar.

Cllr Lis Burnett

Cyng. Lis Burnett - Cadeirydd y BGC

 

CYFLWYNIAD     

Pwy yw'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus?

Vale PSB Membership logos

Sefydlwyd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus y Fro, Ein Bro, yn 2016 ac mae’n dod ag uwch arweinwyr ynghyd o sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector ar draws Bro Morgannwg, i weithio mewn partneriaeth er mwyn creu dyfodol gwell. Mae'n ddyletswydd ar y BGC i sicrhau ei fod yn gwneud y cyfraniad mwyaf posib at y nodau llesiant cenedlaethol a gwella llesiant amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol.

 

 

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

Datblygwyd y cynllun hwn yn unol â'n dyletswyddau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) sy'n ei gwneud yn ofynnol inni "weithredu mewn modd sy'n ceisio sicrhau bod anghenion  y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau". Fodd bynnag, mae'r partneriaid yn cydnabod bod angen inni weithio yn y modd hwn gan fod hynny'n gwneud synnwyr, nid yn unig oherwydd y ddeddfwriaeth. Er mwyn llwyddo i gyflawni ein Hamcanion Llesiant a gwireddu'n gweledigaeth ar gyfer y Fro, mae'r BGC yn cydnabod bod angen inni newid ein dull o weithio, gwrando ar ein preswylwyr ac ar randdeiliaid eraill, a defnyddio tystiolaeth sydd ar gael inni i lywio'r modd rydym yn darparu gwasanaethau lleol, nawr ac i'r dyfodol. 

Nod y Ddeddf yw gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru . Mae'n sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn rhoi mwy o ystyriaeth i'r tymor hir, yn cydweithio'n well â phobl a chymunedau ac â'i gilydd, yn ceisio atal problemau ac yn mabwysiadu dull mwy cydgysylltiedig o weithredu. Drwy barhau i ymwreiddio'r ffyrdd hyn o weithio gallwn wneud gwahaniaeth.  

Drwy gydweithio, gallwn greu Bro a Chymru y mae pob un ohonom am fyw ynddi, nawr ac yn y dyfodol. Mae'r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant cenedlaethol y mae'n rhaid inni weithio tuag atynt, ac y mae'n rhaid eu hystyried yn fel cyfres integredig. Wrth gyflawni'r Cynllun hwn byddwn yn cyfrannu at bob un o'r nodau

 

Cynllun Llesiant newydd

Mae’r adran hon o’r Cynllun yn rhoi trosolwg o fanylion allweddol ein Cynllun Llesiant ar gyfer 2023 – 2028. Ceir rhagor o fanylion (ee, sut rydym yn gweithio fel BGC, ein cyflawniadau hyd yma, ein gwaith ymgysylltu ac ymgynghori, ein Hamcanion a sut y byddwn yn eu cyflawni) drwy'r holl Gynllun, ac maent hefyd ar gael isod. Mae'r rhain, gyda'i gilydd, yn ffurfio ein Cynllun Llesiant.

Rydym yn ffodus i gael byw ac/neu weithio yn y Fro. Mae gan y Fro asedau sylweddol; mae gennym lefelau cymharol isel o ddiweithdra; mae gennym sector gwirfoddol ffyniannus, ac mae’r Fro yn ardal hardd lle gall preswylwyr ac ymwelwyr werthfawrogi a mwynhau ein tirlun trawiadol. Mae ein hamgylchedd lleol yn bwysig i'n llesiant corfforol a meddyliol, ond hefyd yn bwysig i lesiant economaidd a diwylliannol yr ardal. Fodd bynnag, ceir anghydraddoldeb ar draws y Fro, a materion pwysig y mae angen eu datrys. O fewn y cyd-destun hwn y gosododd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) weledigaeth uchelgeisiol ar gyfer Bro Morgannwg yn 2050 yn ein Cynllun Lles cyntaf.

'Bydd gan bawb ymdeimlad o berthyn a byddant yn falch o fod yn rhan o'r Fro, gan  gydnabod eu cyfraniad at lwyddiant y rhanbarth a Chymru. Bydd ein heffaith ar yr  amgylchedd, yn lleol ac yn fyd-eang, yn cael ei deall yn well, a bydd gwasanaethau  cyhoeddus, cymunedau a busnesau'n cydweithio i warchod yr amgylchedd a'n  hadnoddau naturiol er budd cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Bydd y Fro yn  ardal o optimistiaeth acuchelgais, lle byddwn yn cydweithio isicrhau bod pobl ifanc yn gwireddu eu huchelgeisiau unigol, ac yn cael cefnogaeth drwy'r blynyddoedd cynnar, plentyndod a blynyddoedd yr arddegau. Bydd rhinweddau ein poblogaeth  sy'n heneiddio yn cael eu cydnabod a'u parchu, a chyfraniad pobl hŷn at hyfywedd  a chydnerthedd y Fro yn cael ei werthfawrogi. Bydd preswylwyr o bob oed a  chefndir yn cymryd rhan ym mywyd y gymuned, gan helpu i siapio gwasanaethau  ac ymfalchïo yn yr ardal y maen nhw'n byw ynddi. Cydweithio er budd  cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol fydd y norm, a bydd gan breswylwyr hyder  yn y gwasanaethau y maent yn eu derbyn, ac yn eu gallu i beri newid er mwyn wella llesiant economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol yr ardal.  Nodwedd sy'n perthyn i'r gorffennol fydd anghydraddoldeb mewn iechyd ac addysg, wrth inni gydweithio am Fro lle mae gan bawb fynediad at y  gwasanaethau a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i fyw bywyd iach, diogel a llawn

Mae'r weledigaeth hon yn parhau i fod yn wir, a thros y pum mlynedd diwethaf rydym wedi cael ein llywio ganddi i gyflawni'r ymrwymiadau yn ein Cynllun Llesiant cyntaf. Mae ein hadran 'Beth ydym ni wedi'i gyflawni' yn nodi rhai o'n prif gyflawniadau wrth weithio tuag at y weledigaeth hon. Mae'r cyflawniadau hyn hefyd wedi'u disgrifio yn ein Hadroddiadau Blynyddol. Yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r Cynllun hwn, rydym wedi trafod ein gweledigaeth a sut y gallwn ei chrisialu mewn brawddeg fwy cryno, i adlewyrchu ein dyheadau am y Fro, gan gadw naws yr hyn y gwnaethom ymrwymo iddo yn 2018.  Credwn y gellir crynhoi ein gweledigaeth ar gyfer y Fro drwy'r uchelgais canlynol. Rydym am gael:

'Cymunedau hapus ac iach sy'n cydweithio i greu Bro sy'n gyfartal a chynaliadwy i bawb'

Drwy'r Cynllun hwn rydym yn esbonio sut y byddwn yn gweithio i wireddu'r weledigaeth hon, ein hamcanion, a'r camau y byddwn yn eu cymryd i wella llesiant a mynd i'r afael â chanfyddiadau ein Hasesiad Llesiant.Gellir crynhoi ein taith o’r Asesiad Llesiant i’r Cynllun Llesiant hwn drwy ddeg cam allweddol: 

Datablygu ein cynllun lles

 

Rydym wedi ystyried y dystiolaeth, wedi ymgysylltu, ymgynghori, diwygio a drafftio ein blaenoriaethau ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Rydym bellach ar gam 9 yn natblygiad y Cynllun. 

 

EIN HAMCANION LLESIANT

Er mwyn gwireddu ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol y Fro, byddwn yn gweithio dros y pum mlynedd nesaf i gyflawni ein tri Amcan Llesiant:

  • Bro sy'n fwy cydnerth gwyrdd - drwy ddeall a gwneud y newidiadau sydd eu hangen fel unigolion, cymunedau a sefydliadau mewn ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur.
  • Bro sy'n fwy iach ac egnïol - drwy annog a galluogi pobl o bob oed i fod yn fwy egnïol  ac i hyrwyddo manteision mabwysiadu ffordd iachach o fyw.
  • Bro sy'n fwy cyfartal a chysylltiedig - drwy fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb a geir ar draws y Fro, ymgysylltu â'n cymunedau a chynnig cyfleoedd a chymorth gwell i wneud gwahaniaeth parhaol.

PSB Plan Graphic V4 Welsh

Mae'r Amcanion hyn wedi'u gosod yng nghyd-destun canfyddiadau'r Asesiad, yr heriau allweddol sydd o'n blaenau ar hyn o bryd a'r gwaith sydd ar y gweill gan bartneriaid ar raddfa leol a rhanbarthol. Mae’r diagram uchod yn dangos rhyng-gysylltedd ein tri Amcan Llesiant a sut y bydd gwahanol raglenni gwaith a gweithgarwch partneriaeth (presennol, newydd a diwygiedig) yn cyfrannu at gyflawni ein Hamcanion.  Mae hyn yn dangos ehangder y gweithgarwch sy’n cael ei gyflawni mewn partneriaeth ar draws y Fro.

Rydym yn hyderus y gallwn, drwy’r Amcanion hyn, wneud gwahaniaeth cadarnhaol i lesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol a gwneud y cyfraniad mwyaf posibl tuag at y Nodau Llesiant Cenedlaethol. Mae adrannau ‘Ein Hamcanion Llesiant’ a ‘Cyflawni Ein Hamcanion Llesiant’ yn y Cynllun  yn esbonio ymhellach sut rydym wedi datblygu'r Amcanion, a'r amrywiaeth o weithgareddau a phrosiectau y manylir arnynt uchod sy'n ffurfio'r  camau a fydd yn cyfrannu at gyflawni'r Amcanion hyn. Mae'r ddelwedd isod yn esbonio'n fanylach sut mae ein hamcanion yn cyfrannu at y Nodau Llesiant cenedlaethol. Mae’r matrics ar ddiwedd yr adran hon hefyd yn esbonio sut y bydd y camau a amlinellir isod yn cyflawni ein blaenoriaethau a'n Hamcanion, ac yn cyfrannu at y Nodau Llesiant cenedlaethol.

 

Sut Mae Ein Hamcanion Lles Yn Cyflawni'r Nod Lles Cenedlaethol?

FFRYDIAU GWAITH Â BLAENORIAETH

Mae'r Cynllun hwn yn manylu ar amrywiaeth eang o waith a fydd yn cyfrannu at gyflawni ein Hamcanion ac mae'r BGC wedi nodi tair ffrwd waith â blaenoriaeth lle mae angen ffocws penodol ac ychwanegol ar y cyd. Mae’r rhain yn dod ag amrywiaeth o waith sy'n bodoli eisoes ynghyd ond yn cydnabod bod angen adeiladu momentwm a herio'r ffyrdd presennol o weithio er mwyn bodloni'r anghenion a wynebu'r heriau a amlygwyd yn yr Asesiad Llesiant. Mae’r ffrydiau gwaith â blaenoriaeth hyn yn berthnasol er mwyn cyflawni ein holl Amcanion, a byddant hefyd ynn cyfrannu at yr holl Nodau Llesiant cenedlaethol. Ceir rhagor o wybodaeth am fanylion y ffrydiau gwaith â blaenoriaeth hyn yn adran Cyflawni Ein Hamcanion Lles y cynllun hwn. Ein tair ffrwd waith â blaenoriaeth yw’r canlynol:

Ymateb i argyfyngau hinsawdd a natur -Drwy’r Cynllun Llesiant hwn mae’r BGC yn ailadrodd ei ymrwymiad i arwain drwy osod esiampl, gan fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur, a chydnabod ein cyfrifoldeb byd-eang i ymateb i'r naill argyfwng a'r llall. Mae’r Asesiad Llesiant yn nodi rhai o’r materion allweddol i’r Fro o ran yr argyfyngau hinsawdd a natur ac mae partneriaid yn cydnabod mai’r ffordd orau o gyflawni’r newidiadau sydd eu hangen ar draws ein sefydliadau a’n cymunedau yw drwy gydweithio. Bydd hyn yn cynnwys ystyried trafnidiaeth, ynni, bwyd, bioamrywiaeth a sut rydym yn defnyddio ein hadeiladau a’n tir.

Drwy weithio gyda’r bobl sy’n byw yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig -mae'r Asesiad Llesiant wedi tynnu sylw at y gwahaniaethau ar draws y Fro a sut mae pandemig Covid-19 wedi gwaethygu'r anghydraddoldebau hyn. Yn ogystal â hyn, bydd yr argyfwng costau byw presennol, yn enwedig y cynnydd mewn costau ynni a bwyd, yn effeithio hyd yn oed yn fwy ar y rhai sydd eisoes mewn tlodi. Bydd ffocws penodol ar yr ardaloedd hynny o Fro Morgannwg a nodir fel ardaloedd mwy difreintiedig gan Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru a mynd i’r afael ag annhegwch yn y cymunedau hyn.

Datblygu'n Fro Oed Gyfeillgar -Diffinnir Cymunedau Oed Gyfeillgar gan Sefydliad Iechyd y Byd fel cymuned lle mae 'polisïau, gwasanaethau, lleoliadau a strwythurau yn cefnogi pobl a'u galluogi i heneiddio'n dda'. Rhagwelir y ceir cynnydd o 5,266 yn y boblogaeth 65-84 oed rhwng 2019 a 2039 a chynnydd o 2,904 yn y boblogaeth 85 oed neu'n hŷn. Bydd gwaith i wneud y Fro yn fwy oed gyfeillgar ac yn ardal well i bobl heneiddio ynddo ynddi yn gwneud y Fro yn lle mwy cyfeillgar i bawb, ac yn helpu i sicrhau i barchu a gwerthfawrogi pobl hŷn yn ein cymunedau, gan gydnabod eu cyfraniad, eu hanghenion a'u dyheadau. Byddwn hefyd yn cydnabod rôl gweithgareddau diwylliannol er mwyn dod â gwahanol genedlaethau ynghyd. Bydd y gwaith hwn yn cyd-fynd â gwaith y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ar heneiddio’n dda a bydd ffocws ataliol cryf hefyd i’r gwaith wrth i bartneriaid gydweithio i sicrhau bod gwasanaethau’n diwallu anghenion amrywiol y gymuned, gan ddarparu cymorth a chyfleoedd i breswylwyr o bob oed.

CYFLAWNI EIN HAMCANION A'N FFRYDIAU GWAITH Â BLAENORIAETH

Mae llawer iawn o waith eisoes yn cael ei wneud drwy'r BGC, ac mae’r camau isod yn adlewyrchu’r hyn y byddwn yn canolbwyntio arno i gyflawni ein Hamcanion. Mae hyn yn cynnwys parhau i ddarparu rhaglenni gwaith sydd eisoes wedi'u sefydlu, er enghraifft y Cynllun Symud Mwy Bwyta'n Dda, symud ein ffrydiau gwaith â blaenoriaeth ymlaen, newid ein dull o weithio ac alinio ein gweithgareddau â gwaith partneriaethau eraill, er enghraifft, Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae’r camau isod yn gyfuniad o weithgareddau sy’n trafod ein ffordd o weithio, er enghraifft, gwella'r defnydd o ddata ac ymgysylltu, a bydd y rhain yn effeithio ar holl weithgareddau'r BGC. Ceir rhagor o wybodaeth am y camau yn adrannau’r cynllun ar wneud gwahaniaeth a chyflawni ein hamcanion lles

Dyma’r 19 cam y byddwn yn eu cymryd a fydd, gyda’n gilydd, yn ein helpu i gyflawni ein ffrydiau gwaith â blaenoriaeth a’n Hamcanion Llesiant, a chynyddu ein cyfraniad hyd yr eithaf at bob un o’r Nodau Llesiant cenedlaethol:

  1. Datblygu gwell dealltwriaeth o’n cymunedau ac ymateb i’w hanghenion amrywiol, gan gynnwys y rhai sy’n byw mewn ardaloedd mwy gwledig neu ardaloedd mwy difreintiedig, i sicrhau bod gwasanaethau a chyfleusterau’n hygyrch o ran dyluniad, trafnidiaeth, fforddiadwyedd a thechnoleg, a’u bod ar gael pan fo’u hangen er mwyn atal anghenion rhag gwaethygu.
  2. Cynorthwyo’r trydydd sector a hyrwyddo cyfleoedd i wirfoddoli gan gydnabod y manteision lluosog i unigolion a’n cymunedau o wneud hyn.
  3. Cynyddu’r defnydd o ddata lleol, rhanbarthol a chenedlaethol a defnyddio dull sy’n seiliedig i raddau mwy ar dystiolaeth i lywio penderfyniadau a diwygio gwasanaethau ar draws gwaith y BGC gan gynnwys datblygu sylfaen dystiolaeth y BGC.
  4. Defnyddio modelau fel y model 3H i gefnogi’r gwaith o feddwl yn y tymor hir a newid systemau ar draws y gweithgareddau a nodir yn y cynllun lles.
  5. Cynyddu lefelau ymgysylltu ac ymwneud â phobl o bob oed, yn enwedig y rhai nad ydynt yn tueddu i ymgysylltu a’r rhai nas clywir yn aml, gan gynnwys trwy gyfrwng gweithgareddau diwylliannol.
  6. Gwneud y mwyaf o gyfleoedd i gael mynediad at gyllid ac alinio gweithgareddau i gynyddu galluedd, sgiliau ac adnoddau i gyflawni blaenoriaethau yn y Fro a’r rhanbarth ehangach.
  7. Ymgysylltu â’n plant a’n pobl ifanc a’u cynnwys er mwyn deall eu pryderon a’u dyheadau ar gyfer y dyfodol yn well a sicrhau bod gwasanaethau’n adlewyrchu eu barn a’u hanghenion.
  8. Hyrwyddo newidiadau ymddygiad cadarnhaol a galluogi gwell dealltwriaeth o’n heffaith ar yr amgylchedd ar draws ein sefydliadau a’n cymunedau gyda ffocws ar ynni, yr economi gylchol, bwyd, bioamrywiaeth a theithio.
  9. Cyflawni’r ymrwymiadau yn y Siarter Argyfwng Hinsawdd gan gynnwys datgarboneiddio ein hasedau, prosesau caffael a’n gwasanaethau.
  10. Dangos arweinyddiaeth a chymryd camau i leihau amlygiad ein cymunedau i risgiau amgylcheddol, e.e. effaith tywydd eithafol a llygredd.
  11. Gwella iechyd ein ecosystemau a chydnabod pwysigrwydd bioamrywiaeth a’r angen i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r argyfwng natur.
  12. Cymryd rhan mewn dull mwy integredig o ymdrin ag ystad y sector cyhoeddus (adeiladau a daliadau tir) i wella’r gwaith o ddarparu gwasanaethau a’n gwaith yn ymwneud â’r newid hinsawdd a natur.
  13. Gwella iechyd a lles ar draws y Fro gyda ffocws arbennig ar waith atal a lefelau gweithgarwch corfforol, deiet, y nifer sy’n cael brechlynnau a gwaith sgrinio.
  14. Mynd i’r afael ag annhegwch iechyd fel rhan o raglen waith integredig a chydweithredol, gan sicrhau mwy o ymgysylltu a dull ataliol sydd wedi’i dargedu’n well i gyrraedd y rhai sydd â’r angen mwyaf.
  15. Gweithio mewn partneriaeth i wneud y Fro yn fwy oed gyfeillgar, gan sicrhau bod gan bobl hŷn fynediad i’r gwasanaethau, y cymorth a’r cyfleoedd cywir yn lleol a’u bod yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau, yn gallu dylanwadu ar ddyluniad gwasanaethau a gwella lles.
  16. Darparu gwybodaeth a chymorth i helpu’n cymunedau a’n staff i ddelio ag effeithiau costau byw, e.e. y cynnydd yng nghostau bwyd, ynni a theithio.
  17. Gwneud y mwyaf o gyfleoedd trwy raglenni gwaith a ffrydiau ariannu presennol i fynd i’r afael ag annhegwch a gwella cyfleoedd i’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig, e.e. Dechrau’n Deg a rhaglenni cyflogadwyedd a hyfforddiant.
  18. Ymgysylltu â’r gymuned a mapio asedau i ddeall ein cymunedau mwyaf difreintiedig yn well a chynnwys y bobl sy’n byw yno a’r sefydliadau lleol er mwyn nodi cyfleoedd ar gyfer newid a gwelliant.
  19. Cefnogi gwaith i fynd i’r afael â thlodi bwyd gan gydnabod y cysylltiad agos â lles amgylcheddol ac iechyd a chodi ymwybyddiaeth ohono.

Mae’r tabl isod yn esbonio sut mae pob un o'r 19 o gamau hyn yn cyfrannu at y ffrydiau gwaith â blaenoriaeth, Amcanion Llesiant a Nodau Llesiant cenedlaethol.

MONITRO AC ADRODD AR GYNNYDD

Bydd y BGC yn parhau i gyhoeddi Adroddiadau Blynyddol sy’n nodi’r hyn y mae’r BGC wedi’i gyflawni bob blwyddyn a’r ffocws ar gyfer y 12 mis nesaf. Bydd Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol y Cyngor, a phwyllgorau eraill fel bo'n briodol, yn craffu ar waith y Bwrdd.

Bydd y BGC yn cael adroddiadau rheolaidd ar gynnydd y gweithgareddau allweddol y manylir arnynt yn y cynllun hwn i sicrhau bod y materion a amlygwyd yn yr asesiad lles yn cael sylw, bod yr amcanion lles yn cael eu cyflawni a bod y BGC yn cyfrannu at nodau’r cynllun lles cenedlaethol.

 

Y Cynllun Llesiant Llawn

Os hoffech ddarllen y Cynllun Llesiant yn llawn, dilynwch y ddolen isod:

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg Cynllun Llesiant 2023-2028

 

Welsh Copyrights © 2018. All Rights Reserved by Vale of Glamorgan Public Services Board